Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (254)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Mynediad at Gyllid (30 munud) |
4 Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 (15 munud) NDM5724 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Canlyniadol) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2015. Dogfennau Ategol |
5 Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Diwygio) 2015 (15 munud) NDM5723 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2015. Dogfennau Ategol
|
6 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth (Memorandwm rhif 4): Diwygiad i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 mewn perthynas â diogelu chwythwyr chwiban yn y GIG (30 munud) NDM5722 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr yn y GIG rhag gwahaniaethu yn erbyn ymgeisydd sydd wedi chwythu'r chwiban o'r blaen ac sy'n darparu rhwymedïau, gan gynnwys dyfarnu iawndal, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/smallbusinessenterpriseandemployment.html (Saesneg yn unig)
|
7 Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (15 munud) NDM5725 Carl Saregant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Dogfennau Ategol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 |
8 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru 2013-2014 (60 munud) NDM5720 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2013-14. Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2015. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r heriau recriwtio sy'n wynebu'r sector gofal ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector a chymryd camau i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder ynglŷn ag amrywioldeb perfformiad adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ledled Cymru. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn helpu i wella safonau gwasanaethau gofal cymdeithasol. Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn edrych ar sut y mae cartrefi gofal yn gweithio gyda byrddau iechyd lleol i atal derbyniadau diangen i ysbytai. |
9 Dadl ar Gyflog Cyfartal (60 munud) NDM5721 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed. Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu cofnodion cymharol ym 1997. Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000. |
10 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2015